Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yma mae mwy o wybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys ei gyfansoddiad ac am beth mae'n gyfrifol.

Ar y dudalen hon mae gwybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys:

  • Beth mae'n gwneud?
  • Beth yw ei gyfansoddiad?
  • Sut a phryd gaiff ei ethol?

Beth mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud?

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli pobl Cymru.

Mae ganddo bŵer i wneud penderfyniadau yn y meysydd canlynol:

  • amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig
  • henebion ac adeiladau hanesyddol
  • diwylliant
  • datblygu economaidd
  • addysg a hyfforddiant
  • yr amgylchedd
  • gwasanaethau tân ac achub
  • iechyd a gwasanaethau iechyd
  • priffyrdd a thrafnidiaeth
  • tai
  • diwydiant
  • llywodraeth leol
  • gweinyddiaeth y cyhoedd
  • lles cymdeithasol
  • chwaraeon a hamdden
  • twristiaeth
  • cynllunio tref a gwlad
  • amddiffynfeydd dŵr a llifogydd
  • y Gymraeg

O ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach ddeddfu yn y meysydd hyn, a elwir yn Filiau'r Cynulliad. Mae'r cyfreithiau hyn yn unigryw i Gymru a byddant yn adlewyrchu anghenion a phryderon penodol pob Cymru.

Mae gan Lywodraeth y DU beth rheolaeth dros rhai gwasanaethau cyhoeddus a meysydd deddfwriaeth, megis cyfrifoldeb dros wasanaethau'r heddlu, diogelwch cymdeithasol a chyflogaeth.

Darganfod mwy am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Beth yw ei gyfansoddiad?

Mae 60 o Aelodau Cynulliad (ACau) etholedig ac mae pump ohonynt yn eich cynrychioli chi. Mae un AC yn cynrychioli eich etholaeth Cynulliad, ac mae'r pedwar arall yn cynrychioli eich rhanbarth.

Ffurfir Llywodraeth Cymru gan y blaid neu'r pleidiau sydd â'r mwyaf o seddi yn y Cynulliad, ac fe'u harweinir gan y Prif Weinidog.

Mae naw Gweinidog arall yn y Llywodraeth sydd â chyfrifoldeb dros faes penodol. Mae hefyd pedwar Dirprwy Weinidog.

Mae'r Gweinidogion yn atebol i'r Cynulliad ac mae'n rhaid iddynt ateb cwestiynau gan ACau eraill am eu polisïau a'u gweithgareddau.


Sut mae'n cael ei ethol?

Pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae gennych ddwy bleidlais - un i ethol eich aelod etholaeth ac un i ethol eich aelod rhanbarthol.

Yn y bleidlais etholaeth , rydych yn dewis yr ymgeisydd yr ydych am eich cynrychioli'n uniongyrchol.

Yn y bleidlais ranbarthol , rydych yn dewis o restr plaid neu ymgeiswyr annibynnol i gynrychioli'ch rhanbarth.

Darganfod mwy am y system bleidleisio ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Pryd caiff ei ethol?

Mae etholiadau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.


Pwy sy'n gymwys i bleidleisio?

I bleidleisio mewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae'n rhaid fod person wedi'u cofrestru i bleidleisio, a:

  • yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y pleidleisio
  • Yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd
  • Preswylio yng Nghymru
  • Ddim yn destun unrhyw anghymhwysedd cyfreithiol i bleidleisio

Darganfod mwy o wybodaeth o ran pwy sy'n gymwys i bleidleisio