Cyngor Lleol

Yma mae mwy o wybodaeth am gynghorau lleol, gan gynnwys sut maent yn cael eu creu ac am beth maent yn gyfrifol.

Ar y dudalen hon mae gwybodaeth am gynghorau lleol gan gynnwys:

  • beth maen nhw'n gwneud
  • y gwahanol fathau o gynghorau lleol
  • sut a phryd y cânt eu hethol

Beth mae cynghorau lleol yn gwneud?

Mae cynghorau yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau lleol.

Mae eich cynrychiolwyr etholedig, neu gynghorwyr, hefyd yn eich cynrychioli chi ar lefel lleol - gelwir hyn yn llywodraeth leol.

Yn dibynnu ar le'r ydych yn byw, mae eich cyngor yn gyfrifol am rai neu bob un o'r meysydd canlynol:

  • Tai cyngor
  • Gwasanaethau addysgiadol
  • Cofrestru etholiadol
  • Iechyd yr amgylchedd
  • Cyfleusterau hamdden ac adloniant
  • Lyfrgelloedd
  • Cynllunio lleol
  • Trafnidiaeth leol
  • Parciau a mannau cyhoeddus
  • Rheoleiddio busnesau lleol
  • Ffyrdd a throedffyrdd
  • Gwasanaethau cymdeithasol
  • Gwastraff ac ailgylchu

Pa fath o gyngor sydd gyda fi?

Mae gwahanol fathau o gynghorau yn y DU ac mae'r math o gyngor yn dibynnu ar ble'r ydych yn byw.

Os ydych yn byw yn Llundain neu un o ddinasoedd mwy Lloegr, bydd gennych Gyngor Bwrdeistref Llundain neu Ddosbarth Metropolitan (MDC). Mae MDC mewn llefydd fel Birmingham, Manceinion, Leeds a Lerpwl. Mae'r cynghorau hyn yn darparu'r holl wasanaethau lleol.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu'r Alban, bydd gennych awdurdod unedol. Mae hefyd awdurdodau unedig mewn rhai trefi a dinasoedd o faint canolig yn Lloegr fel Reading neu Nottingham. Mae'r cynghorau hyn hefyd yn darparu'r holl wasanaethau lleol, ond gallant gynnwys ardal ehangach fel Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae cynghorau lleol, ond mae'r rhan fwyaf o wasanaethau yn cael eu darparu gan sefydliadau eraill.

Mewn rhai rhannau gwledig neu rhannol wledig o Loegr, mae llywodraeth leol wedi'i rannu rhwng cyngor sir a chyngor dosbarth. Mae cynghorau sir yn gorchuddio ardaloedd mawr fel Dyfnaint neu Caint, ac maent yn darparu tua 80 y cant o wasanaethau ar gyfer yr ardal honno. Mae cynghorau dosbarth yn gorchuddio ardaloedd llai ac yn darparu gwasanaethau mwy lleol.
Isod mae rhestr o beth mae pob math o gyngor yn ei wneud:
Cyngor sir Cyngor dosbarth
Gwasanaethau addysgiadol Cofrestru etholiadol
Lyfrgelloedd Iechyd yr amgylchedd
Gwasanaethau cymdeithasol Tai cyngor
Strydoedd a ffyrdd Cyfleusterau hamdden ac adloniant
Gwaredu gwastraff Cynllunio lleol
  Casglu gwastraff

Yn Lloegr, mae gan rhai trefi a bwrdeistrefi Llundain eu maer etholedig eu hunain hefyd.

Yn ogystal â chynghorau lleol, mae gan y DU hefyd oddeutu 10,000 o gynghorau plwyf, tref a chymuned. Mae'r rhain yn ffurfio lefel mwyaf lleol llywodraeth leol.

Mae cynghorau cymuned yng Nghymru a'r Alban a chynghorau plwyf yn Lloegr yn gyfrifol am bethau megis:

  • rhandiroedd
  • arosfannau bws
  • meysydd parcio
  • tai bach cyhoeddus
  • mynwentydd
  • goleuo troedffyrdd
  • biniau sbwriel
  • neuaddau lleol a chanolfannau cymunedol
  • parciau a phyllau bach lleol
  • clociau cyhoeddus
  • cofebion rhyfel

Sut maen nhw'n cael eu hethol?

Pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad lleol, byddwch yn derbyn papur pleidleisio yn rhestru'r holl ymgeiswyr sy'n sefyll i fod yn gynghorydd yn eich ardal chi.

Efallai y gofynnir i chi bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd yn dibynnu ar le'r ydych chi'n byw.
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon bydd gofyn i chi rifo'r ymgeiswyr yn nhrefn eich ffafriaeth.

Pryd maen nhw'n cael eu hethol?

Etholir pob cynghorydd am bedair blynedd ond mae pryd mae gennych gyfle i'w hethol yn dibynnu ar y math o gyngor sydd gennych yn eich ardal a pha ddull pleidleisio mae'n defnyddio.

Pleidleisio yn ôl traeanau

Os yw'ch cyngor yn pleidleisio yn ôl traeanau mae hyn yn golygu bod traean o'r holl gynghorwyr yn cael eu hethol bob blwyddyn mewn cylch o bedair blynedd (gyda dim etholiadau ar y bedwaredd flwyddyn).

Pleidleisio yn ôl haneri

Os yw'ch cyngor yn ethol yn ôl haneri, mae hanner y cynghorwyr yn cael eu hethol bob dwy flynedd.

Mae awdurdodau lleol eraill fel bwrdeistrefi Llundain yn ethol eu holl gynghorwyr bob pedair blynedd.
Pa bynnag ddull y mae'ch awdurdod lleol yn ei ddefnyddio, byddwch yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol o leiaf unwaith bob pedair blynedd.


Pwy sy'n gymwys i bleidleisio?

I bleidleisio mewn etholiad cyngor lleol, mae'n rhaid bod person wedi'u cofrestru i bleidleisio, a:

  • bod yn 18 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio yng Nghymru a Lloegr; neu'n 16 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio yn yr Alban
  • yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd
  • preswylydd yn y DU
  • ddim yn destun unrhyw anghymhwysedd cyfreithiol i bleidleisio

Ni all y canlynol bleidleisio mewn etholiad cyngor lleol:

  • unrhyw un heblaw dinasyddion Prydeinig, cymwys y Gymanwlad neu'r Undeb Ewropeaidd
  • person euogfarnedig sydd yn y ddalfa o ganlyniad i'w dedfryd, ag eithrio dirmyg llys (ond gall carcharorion ar remand, carcharorion nad ydynt wedi'u cael yn euog a charcharorion dinesg bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
  • unrhyw un sydd wedi'u cael yn euog o fewn y pum mlynedd blaenorol o arferion llwgr neu anghyrfreithlon mewn perthynas ag etholiad

Darganfod mwy o wybodaeth o ran pwy sy'n gymwys i bleidleisio