Mae safle Dy Bleidlais Di yn defnyddio cwcis i hwyluso eich profiad. Caewch y blwch yma i dderbyn, neu ewch i'n tudalen cwcis i gael mwy o wybodaeth.

Your Vote Matters GWEFAN A GYNHELIR GAN
Y COMISIWN ETHOLIADOL
CY EN

Template press release for Wales

Templed Datganiad i'r Wasg i Gymru - Canfas blynyddol 2018

Peidiwch colli'ch llais - annog trigolion yn i gadw llygad allan am eu manylion cofrestru yn y post

Mae trigolion lleol yn cael eu rhybuddio i beidio â cholli eu llais ar faterion sy'n effeithio arnynt drwy gwblhau a dychwelyd eu ffurflen canfas blynyddol i'w hawdurdod lleol cyn gynted â phosibl.

Bwriad y ffurflen yw sicrhau bod <enw'r awdurdod leol> yn gallu cadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, a nodi unrhyw drigolion nad ydynt wedi'u cofrestru fel y gellir eu hannog i wneud. <Bydd hyn yn golygu y bydd trigolion yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw etholiad yn y dyfodol>

Dywedodd <rhowch yr enw>, Swyddog Cofrestru Etholiadol <rhowch yr awdurdod lleol>:

"Mae'n bwysig bod trigolion yn yateb cyn gynted â phosibl, fel ein bod ni'n sicrhau fod y manylion cywir gyda ni ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn <ardal awdurdod lleol>. I wneud yn siŵr eich bod yn cael dweud eich dweud yn yr etholiadau <flwyddyn nesaf>, gwiriwch y ffurflen pan fydd hi'n cyrraedd a'i dychwelyd cyn gynted â phosibl."

Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y ffurflen. Os ydych am gofrestru, y ffordd rwyddaf yw mynd ar-lein i yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn esbonio sut i wneud hyn drwy'r post. Naill ffordd neu'r llall, bydd dal yn rhaid i chi gwblhau'r ffurflen a'i dychwelyd atom ni."

Mae pobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar yn cael eu hannog yn benodol i gadw llygad allan am y ffurflen a gwirio'r manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol yn nodi bod rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rheiny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am amser hir. Dangosodd yr ymchwil fod 94% o bobl ledled Prydain Fawr sydd wedi bod yn eu heiddo am fwy nag un flynedd ar bymtheg wedi'u cofrestru o'i gymharu â 40% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am llai na blwyddyn.

Dywedodd Rhydian Thomas, pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:
"Mae'n bwysig iawn bod pawb sydd â hawl i bleidleisio yn gallu gwneud a gwirio'ch manylion ar y ffurflen fydd yn eich cyrraedd cyn bo hir yw un o'r ffyrdd rhwyddaf o weld os ydych eisoes wedi cofrestru. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cofrestru i bleidleisio ar ein gwefan www.dybleidlaisdi.co.uk."

Gall unrhyw un sydd â chwestiynau gysylltu â'r tîm etholiadau lleol yn <rhowch manylion cyswllt yr awdurdod lleol>

Diwedd

Nodiadau i olygyddion
1. <Mae <etholiadau xxxx> yn digwydd yn <awdurdod lleol> ym mis Mai 2019>
2. Mae'r Gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol, megis sicrhau mai dim ond pobl sy'n gymwys i wneud all bleidleisio. Fe'i defnyddir hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir mewn cyfraith, megis: * canfod trosedd (e.e. twyll) * galw pobl i wasanaeth rheithgor * gwirio ceisiadau credyd.
3. Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei ddefnyddio ar gyfer etholiadau. Gall gael ei brynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, caiff ei ddefnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad. Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored heblaw eich bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.
4. I fod yn gymwys i bleidleisio yng Nghymru, rhaid i berson fod:
- Dros 16 (gall person fod wedi cofrestru yn 16 oed, ond ni allant bleidleisio hyd nes eu bod yn 18 oed)
- Dinasyddion Prydeinig neu gymwys y Gymanwlad yw rhywun sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd o'r fath arnynt.
- Dinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu aelod-wladwriaeth arall yr Undeb Ewropeaidd.
5. Gall dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig a chymwys gwledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cyprus a Malta), yn ogystal â dinasyddion aelod-wladwriaethau eraill yr UE bleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
6. Mae manylion llawn ymchwil y Comisiwn Etholiadol ar y cofrestrau etholiadol ar gael yma.