Cofrestru i bleidleisio

Cwestiynau Cyffredin - cofrestru i bleidleisio yn y DU.

On this page you can find the answers to frequently asked questions about registering to vote in the UK.

Os ydych wedi newid cyfeiriad ac angen diweddaru'ch manylion ar y gofrestr etholiadol, bydd angen i chi ailgofrestru yn eich cyfeiriad newydd.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gallwch wneud hyn ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Nid ydym yn gallu dweud wrthych p'un a ydych ar y gofrestr etholiadol ai peidio, ond rydym yn aml yn cael ymgholiadau ynghylch hyn.

Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu gwasanaeth cofrestru dros y ffôn.

Dod o hyd i fy awdurdod lleol

Yr unig fanylion sy'n ymddangos ar y gofrestr yw'ch enw, cyfeiriad a dynodydd sy'n nodi pa etholiadau allwch bleidleisio ynddynt. Os ydych o dan 18, bydd dyddiad eich penblwydd yn 18 hefyd yn cael ei ddangos.

Mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir y gofrestr olygedig hefyd).

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol, megis sicrhau mai dim ond pobl sy'n gymwys i wneud all bleidleisio. Fe'i defnyddir hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir mewn cyfraith, megis canfod trosedd (e.e. twyll), galw pobl i wasanaeth rheithgor a gwirio ceisiadau credyd.

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei ddefnyddio ar gyfer etholiadau. Gall gael ei brynnu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, caiff ei ddefnyddio gan fusnesau ac elusenau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored heblaw eich bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu. Gallwch dynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored ar unrhyw adeg drwy gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt a gwefan eich awdurdod, rhowch eich cod post isod.

Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

Gallwch ofyn i gofrestru'n ddienw am resymau diogelwch - megis os ydych yn dianc rhag trais, neu os oes gennych swydd sy'n eich rhoi mewn risg gan bobl eraill.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddienw, yn hytrach na bod eich enw a'ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol, bydd cod yn cael ei ychwanegu at y gofrestr yn lle.

I gofrestru i bleidleisio yn ddienw bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o orchymyn llys neu ardystiad gan berson awdurdodedig i gefnogi eich cais.

Lawrlwytho ffurflen i gofrestru i bleidleisio yn ddienw o gov.uk

I ddarganfod mwy, bydd angen i chi gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol.

Dod o hyd i fy awdurdod lleol

Mae'r gofrestr etholiadol yn cael ei diweddaru bob mis. Bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eich ardal i wybod yn union pryd fydd eich manylion yn cael eu hychwanegu.

Dod o hyd i fy awdurdod lleol

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, mae'n rhaid i chi gwblhau ffurflen newid enw a'i dychwelyd i'ch awdurdod lleol er mwyn newid eich enw ar y gofrestr etholiadol.

Dim ond eich awdurdod lleol a all ddarparu'r ffurflenni hyn ar hyn o bryd, felly bydd angen i chi gysylltu â nhw i wneud cais am ffurflen drwy'r post.

Dod o hyd i fy awdurdod lleol

Bydd, pan yr ydych yn symud cartref mae'n rhaid i chi gofrestru yn eich cyfeiriad newydd. Os ydych wedi cofrestru ers i chi symud i'ch cartref newydd, does dim angen i chi gofrestru eto. Os nad ydych, bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto.

Pan fyddwch yn cofrestru i'ch cyfeiriad newydd, bydd eich awdurdod lleol newydd yn gwneud yn siŵr eich bod wedi eich tynnu oddi ar y gofrestr yn eich hen gyfeiriad.

Os ydych am gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban gallwch gofrestru ar-lein unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Os ydych chi’n newid eich cyfeiriad, bydd angen i chi wneud cais newydd am bleidlais bost neu ddirprwy - ni fydd eich dewis pleidleisio yn cael ei gario i’ch cyfeiriad newydd.

Os cafodd eich cais am gredyd ei wrthod am nad oedd modd i'ch banc neu asiantaeth gwirio credyd ddilysu eich manylion ar y gofrestr etholiadol, mae hyn am eu bod defnyddio'r gofrestr etholiadol yn aml at ddibenion gwirio credyd er mwyn atal twyll.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi gysylltu â'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol er mwyn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.

Dod o hyd i fy awdurdod lleol

Gall anfon llythyr atoch sy'n cadarnhau eich manylion ar y gofrestr etholiadol, ond efallai y bydd tâl. Weithiau, mae'r cofnodion a gaiff eu cadw gan asiantaethau gwirio credyd yn anghywir - dylent allu anfon copi o'ch cofnod atoch fel y gallwch wirio'r manylion.

Os ydych eisoes wedi darparu cadarnhad eich bod wedi'ch cofrestru i'ch banc neu asiantaeth gwirio credyd, bydd angen i chi ddatrys unrhyw broblemau eraill gyda nhw.

Nid yw'n bosib i chi dynnu eich hun oddi ar y gofrestr etholiadol yn eich cyfeiriad presennol heblaw eich bod yn symud cartref. Pan fyddwch yn cofrestru i'ch cyfeiriad newydd, bydd eich awdurdod lleol newydd yn gwneud yn siŵr eich bod wedi eich tynnu oddi ar y gofrestr yn eich hen gyfeiriad.

Gallwch dynnu eich hun oddi ar y gofrestr agored, y gofrestr sydd ar gael i'w gwerthu, unrhyw bryd, drwy gysylltu â'ch swyddfa cofresrtu etholiadol lleol.

Os ydych mewn risg os yw'ch enw yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol, efallai y gallwch gofrestru'n ddienw.

Gall myfyrwyr fod â hawl cofrestru yn eu cyfeiriad cartref a'u cyfeiriad prifysgol, ond dim ond unwaith gallant bleidleisio yn yr un siambr neu swydd.

Fodd bynnag, os yw'ch cyfeiriadu cartref a phrifysgol mewn dwy ardal awdurdod leol gwahanol, gallwch bleidleisio mewn etholiadau lleol yn y ddwy ardal.

Hyd yn oed os ydych wedi'ch cofrestru mewn dwy ardal - adref ac yn yr un brifysgol - gallwch bleidleisio mewn un mewn etholiad cyffredinol.

Mae'n drosedd pleidleisio dwywaith mewn etholiad cyffredinol y DU .

Mae'r penderfyniad terfynnol am gofrestru yn gorffwys gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yr ydych yn ceisio cofrestru gyda nhw. I gael mwy o wybodaeth dylech gysylltu â'ch swyddfa gofrestru leol.

Dod o hyd i fy awdurdod lleol

Gallwch fod wedi'ch cofrestru i bleidleisio mewn dau gyfeiriad gwahanol os ydych yn preswylio yn y ddau gyfeiriad ac yn treulio amser hafal yn y ddau le.

Er enghraifft, gall myfyrwyr gael eu cofrestru yn eu cartref a'u cyfeiriad amser tymor.  Mae'r penderfyniad o ran pwy sy'n gymwys i gofrestr mewn cyfeiriad yn aros gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer yr ardal honno.

Mae'n drosedd pleidleisio dwywaith yn yr un etholiad megis mewn etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, gallwch bleidleisio mewn etholiadau mewn dau gyngor lleol arwahan.

Gallai dod o hyd i ffrind neu berthynas coll ar y gofrestr etholiadol gan fod cofrestru etholiadol yn cael ei wneud gan y swyddfa gofrestru etholiadol ar gyfer pob ardal, ac nid oes cofrestr etholiadol canolog y gellir ei chwilio.

Mae'r cyfnod o amser y mae awdurdodau lleol yn cynnal eu cofrestrau yn amrywio, ond unwaith iddynt gael eu rhyddhau maent yn cael eu hanfon at y Llyfrgell Brydeinig. Efallai bydd Swyddfa'r Gofrestr Gyffredin neu'r Archifau Cenedlaethol hefyd yn gallu eich helpu chi.

I weld y gofrestr etholiadol ar gyfer ardal benodol, dyclehc gysylltu â'r awdurdod lleol perthnasol.

Dod o hyd i fy awdurdod lleol

Na, mae cofrestru etholiadol yn cael ei gynnal yn lleol gan y swyddfa gofrestru etholiadol ar gyfer pob ardal, ac nid oes cofrestr etholiadol canolog y gellir ei chwilio ar-lein.

Os ydych yn ceisio chwilio am ffrind neu berthynas, gweler 'Alla i ddod o hyd i ffrind neu berthynas coll ar y gofrestr etholiadol'. Os hoffech wirio os ydych wedi'ch cofrestru, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol.

Dod o hyd i fy awdurdod lleol